Croeso i wefan Cyngor
Llanegryn
Dyma ardal hyfryd yn ne orllewin Meirionnydd, gyda chyfoeth o hanes a
threftadaeth. Mae yma gymdeithas fyw, gyda bwrlwm o fywyd
cymdeithasol a diwylliannol.
Gwasgaredig yw'r boblogaeth sydd o fewn ffiniau'r Cyngor Cymuned. Mae'r nifer
mwyaf yn byw ym mhentref Llanegryn, lle mae gofnod o boblogaeth oddiamgylch yr
Eglwys ers y 13eg Ganrif. Heddiw mae yma Gapel, Ysgol a Neuadd sydd yn
gwasanaethu ardal ehangach.
I’r dwyrain o’r pentref mae Ystad y Peniarth, a fu ar un adeg yn adnabyddus am gasglu a chadw llawysgrifau. Maent bellach yn y Llyfrgell
Genedlaethol, ac yn cael eu hystyried o bwysigrwydd enfawr.
Mae’r trigolion yn gweithio yn y byd amaeth, twristiaeth a gwasanaethau eraill, a nifer yn teithio allan o’r ardal i amrywiaeth o swyddi. Mae nifer yn
gweithio o adref.
Mae Cyngor Cymuned Llanegryn yn rhan Barc Cenedlaethol Eryri gydag amrywiaeth o gynefinoedd. Mae ffin y Cyngor yn cwmpasu ardal hyfryd
Dyffryn Dysynni, lle mae llawer o’r tir wedi ei sychu a’I wella yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif a’r bymtheg, a lle mae yna sustem ddraenio
unigryw yn bodoli hyd heddiw.
Cyngor Cymuned Llanegryn Community Council © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs